SL(6)286 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2022

Cefndir a Diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau ("ETS") y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, fel ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau. Fe'i cynlluniwyd ar y cyd gan y pedair llywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr lleihau allyriadau yng Nghymru.

Yn gynharach yn 2022, cynhaliodd Awdurdod ETS y DU ymgynghoriad ynghylch "Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU)" a oedd yn cynnwys nifer o welliannau arfaethedig a ystyriwyd yn angenrheidiol i fynd i'r afael ag anghenion technegol a gweithredol a nodwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu ETS y DU. Mae angen gweithredu'r rhain cyn blwyddyn cynllun 2023.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn datgan:

“Mae'r diwygiadau presennol yn ymdrin â manylion technegol a fydd yn helpu i gryfhau’r ETS, gan sicrhau hefyd fwy o dryloywder i’r ffordd y mae’r cynllun yn gweithio, er budd cyfranogwyr ac i'r cyhoedd.”

Mae’r diwygiadau presennol yn:

§  Ymateb i effeithiau ar y cynllun a achoswyd gan bandemig Covid-19 (yn benodol, trwy ganiatáu hepgor data blwyddyn Covid 2020 wrth gyfrifo newidiadau lefel gweithgarwch, ar gyfer y gweithredwyr hynny sy’n gallu dangos anghysondebau sylweddol mewn gweithgarwch a achosir gan bandemig Covid-19).

 

§  Cryfhau’r darpariaethau presennol i wneud y cynllun yn fwy effeithiol gan ei wneud yr un pryd yn fwy hyblyg i gyfranogwyr (er enghraifft, drwy gryfhau'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i geisiadau am lwfansau am ddim gan rai gweithredwyr diwydiannol).

 

§  Cyhoeddi gwybodaeth yn rheolaidd o gofrestrfa’r cynllun er mwyn ei wneud yn fwy tryloyw.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Gorchymyn hwn yn y Cyfrin Gyngor gan Ei Mawrhydi cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd, Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon ar 16 Tachwedd 2022. Caiff unrhyw un o’r deddfwrfeydd hynny ddirymu’r Gorchymyn, yn unol â’r gweithdrefnau penderfyniad negyddol sy’n gymwys i’r deddfwrfeydd hynny.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Nodwn fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor wedi cael ei wneud gan Ei Mawrhydi ac fe'i gosodwyd gerbron pob un o'r pedair deddfwrfa yn y Deyrnas Unedig, ac felly mae yn Saesneg yn unig.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Legislation, Justice and Constitution Committee

30 Tachwedd 2022